Mae gwrthwynebwyr ynni niwclear wedi beirniadu lansiad dêl sector niwclear gwerth £200 miliwn yng ngogledd Cymru.

Cafodd y dêl ei lansio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn Nhrawsfynydd, Gwynedd, ddydd Iau (Mehefin 28), ac fel rhan o’r cynllun mi fydd £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru.

Trwy’r buddsoddiad yma bydd safle yn cael ei osod yng ngogledd Cymru, a fydd yn datblygu technoleg niwclear soffistigedig.

Daw’r cyhoeddiad dyddiau yn unig wedi i’r Llywodraeth gyhoeddi ei bod am gefnu ar gynllun ynni adnewyddadwy yn ne Cymru – Morlyn Llanw Bae Abertawe.

Ac mae amseriad y cyhoeddiad, yn ogystal â’i gynnwys, wedi cythruddo sawl un.

“Rhwystredig”

“Anghrediniaeth yw’r ymateb at y ddau benderfyniad,” meddai Dr Carl Clowes, Pobol Atal Wylfa B (PAWB) wrth golwg360. “Ond, dyw’r hyn sy’n gyrru’r agenda, wrth gwrs, ddim byd i wneud ag ynni.”

Mae’r ffigwr yn ymgyrchu yn erbyn gosod ail atomfa niwclear ar Ynys Môn, a’n nodi mai awydd i “gynnal y diwydiant niwclear milwrol” sydd wrth wraidd penderfyniadau’r Llywodraeth.

“Beth sy’n rhwystredig yw bod ‘na gyn lleied o drafodaeth gall yn gyhoeddus,” meddai wedyn. “… Mae’r diffyg democratiaeth ynghylch hyn yn rhyfeddu rhywun.”

“Cyfeiriad anghywir”

Yn ôl dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr, Amelia Womack, “egni’r gorffennol yw ynni niwclear” ac mae’r Llywodraeth yn dilyn “cyfeiriad anghywir”.

“Mae’r cynllun yma yn ein harwain ni’n agosach at sêl bendith yn cael ei rhoi ar gynlluniau gorsaf bŵer yn Ynys Môn,” meddai. “Fe fyddai hynny’n benderfyniad ofnadwy ar ran y Llywodraeth.

“Yn hytrach na thrawsnewid y ffordd yr ydym yn defnyddio egni niwclear, dylai’r Llywodraeth wrthdroi eu penderfyniad i gefnu ar Forlyn Bae Abertawe.

“Fe fyddai’r prosiect hwnnw wedi tanio newid go iawn yn y ffordd yr ydym yn trin ynni glan.”