Mae meddyg teulu o Wynedd yn dweud iddo gael “sioc” o dderbyn ateb uniaith Gymraeg i lythyr a anfonodd at Lywydd Comisiwn Ewrop.

Fe anfonodd Dr Gwilym Sion Pritchard o Benygroes, Dyffryn Nantlle ei lythyr gwreiddiol at Jean-Claude Juncker ym mis Mai i gyfleu ei rwystredigaeth ynglyn â phroses Brexit.

Roedd wedi atodi ei lythyr ebost at neges o gyflwyniad mewn Ffrangeg.

O fewn ychydig wythnosau, fe ddaeth ateb Cymraeg ar ran y Llywydd – a hwnnw yn uniaih Gymraeg ac yn  rhybuddio nad yw “cynnal y sefyllfa bresennol yn opsiwn” o ran Brexit.

Er hynny, meddai, mae’r mwyafrif o aelodau’r Undeb Ewropeaidd yn “optimistaidd” am ei dyfodol.

Y llythyr

Mae Gwilym Sion Pritchard yn canmol swyddfa’r Llywydd am ymateb i’w gais â Chymraeg “hollol gywrain a glân”, a’i fod “tu hwnt o falch” o’i dderbyn.

“Wnes i sgwennu llythyr yn dweud pa mor rhwystredig oedd yr holl beth, a bod y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg yn cael eu llusgo allan yn erbyn eu hewyllys,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n gwybod bod o’n mynd i wneud dim byd o gwbwl. Ond, efallai mewn rhyw 200 neu 300 mlynedd pan fyddan nhw’n edrych trwy archifau Ewrop, mi wnawn nhw sylwi ‘o ia, mi roedd yna ryw bobol bach yn byw yn ardal orllewinol Prydain oedd eisiau aros efo ni’.”

Llythyr Jean-Claude Juncker

Pasbort

Mae Gwilym Sion Pritchard yn nodi bod ei brofiad o gyfathrebu â’r Undeb Ewropeaidd yn dra gwahanol i adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae’n tynnu sylw yn benodol at y drafferth a gafodd wrth anfon cais Cymraeg am basbort i’w fab.

Bu peth oedi, meddai, wedi i’r cais gael ei anfon o Belffast i Gasnewydd er mwyn cael ei brosesu, a bu’n rhaid i’r meddyg gymryd diwrnod i ffwrdd o’i waith er mwyn mynd i’w gasglu.

“Os basa fo’n Saesneg mi fuasan nhw wedi ei brosesu o’n gynt,” meddai, gan gyfeirio at y sefyllfa fel achos o “arwahanu ar sail ieithyddol”.

Wedi iddo gwyno i Swyddfa Basport Ei Mawrhydi, fe dderbyniodd llythyr “annealladwy” yn ôl, wedi ei gyfieithu trwy Google Translate.

“Roeddwn i’n gandryll,” meddai. “Os ydan ni’n ‘Brydain Fawr’ mi ddylai bod yna Gymraeg da. Mae’r sgrwtsh yna’n amharchus. Gobbledygook.”