Mae cadeirydd cangen Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn dweud y byddai’n “beth iach” pe bai Leanne Wood yn cael ei herio am arweinyddiaeth y blaid.

Mewn cyfarfod yn Hendy-gwyn ar Dâf neithiwr (nos Lun, Mehefin 26), fe bleidleisiodd aelodau’r Blaid yn yr etholaeth dros enwebu yr Aelod Cynulliad, Adam Price, ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Yn ôl cadeirydd y gangen, y Cynghorydd Alun Lenny, fe lwyddodd y cynnig o blaid Adam Price i sicrhau “mwyafrif clir, ratio o 3:1″, yn dilyn yr hyn mae’n ei ddisgrifio fel “trafodaeth fywiog, ond digon cyfeillgar”.

“Y teimlad yn y cyfarfod neithiwr oedd bod Leanne wedi cael chwe blynedd, a doedd yna ddim tystiolaeth y bydde pethe’n gwella pe bai hi’n cael tair blynedd arall, ac mae hwn yn gyfnod mor dyngedfennol nawr wrth inni wynebu Brexit,” meddai wrth golwg360.

“Nawr yw’r amser i o leia’ cael etholiad am yr arweinyddiaeth achos bydde fe’n gyfle i bawb gael dweud ei ddweud ac yn gyfle hefyd i adfywio’r blaid, i raddau.”

Gormod o ddisgwyliadau

Er bod Alun Lenny yn un o’r rheiny a bleidleisiodd o blaid Leanne Wood ar gyfer yr arweinyddiaeth yn 2012, mae’n dweud bod nifer erbyn hyn yn teimlo “bod ein disgwyliadau ni’n ormodol wrth edrych yn ôl.”

“Mae [Leanne Wood] wedi dod â ni at ennill y Rhondda, ond heb fychanu ei hymdrech hi yno, fe gafodd hi sylw cenedlaethol a thrwy Brydain yn ystod yr etholiad, a hefyd does dim dwywaith ei bod hi’n boblogaidd yn ei hardal. Ond digon siomedig fu perfformiad y Blaid mewn rhannau eraill.

“Doedd yr etholiad cyffredinol wedyn ddim fawr gwell. Er bod y Baid nawr yn dal pedair sedd, fe ddaethom ni o fewn 92 pleidlais i golli Arfon…”

Mae’n ychwanegu ei bod yn “bwysig ein bod ni’n wynebu realiti’r sefyllfa fel plaid”, a bod y canlyniadau am hynny, meddai, “i lawr i’r arweinydd”.

Dyddiad cau yn agosáu

Gydag union wythnos i fynd tan y dyddiad cau (Gorffennaf 4) ar gyfer herio’r arweinyddiaeth, cangen Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yw’r drydedd gangen hyd yn hyn i roi enwau ei haelodau Cynulliad lleol ymlaen.

Mae cangen y Blaid yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr eisoes wedi enwebu Adam Price, tra bo cangen Ynys Môn wedi cefnogi Rhun ap Iorwerth.

Mae Alun Lenny hefyd yn dweud bod bellach grŵp o 44 cynghorydd yn Sir Gâr, Sir Benfro a Phowys yn “awyddus i weld Adam Price yn sefyll”.

Dyw Adam Price na Rhun ap Iorwerth ddim wedi cyhoeddi eto pa un a fyddan nhw’n ymgeisio neu beidio.