Mae Aelod Cynulliad Llafur, Julie James wedi cyflwyno gwelliant i’r mesur sy’n galw am bleidlais o ddiffyg hyder yn Alun Cairns ac i ddiddymu’r swydd yn gyfan gwbwl.

Fe ddaeth y cynnig gwreiddiol gan Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn dilyn y penderfyniad gan Lywodraeth Prydain i gefnu ar brosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe.

Mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wedi cael ei feirniadu am nifer o benderfyniadau’n ddiweddar, gan gynnwys peidio â thrydaneiddio’r rheilffordd yng Nghymru ac ailenwi Pont Hafren yn Bont Tywysog Cymru.

Yn ôl cynnig Rhun ap Iorwerth, mae ganddo ddiffyg hyder yn Alun Cairns fel Ysgrifennydd Cymru, ac mae am weld y swydd yn cael ei diddymu a’i disodli gan Gyngor Gweinidogion er mwyn sicrhau mwy o degwch i Gymru.

Gwelliant

Ond mae Julie James, yn hytrach na chyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder, am nodi “methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig” wrth fethu â buddsoddi mewn prosiectau isadeiledd.

Ac yn hytrach na diddymu’r swydd yn gyfan gwbwl, mae hi am nodi “methiant Ysgrifennydd Cymru i sefyll lan dros Gymru a chefnogi’r angen am fwy o fuddsoddiad mewn prosiectau isadeiledd mawr yng Nghymru”.

Ymhlith y rhai sy’n beirniadu gwelliant Julie James mae Neil McEvoy. Ar ei dudalen Twitter, mae’n dweud: “Ddoe, fe gyhuddodd Prif Weinidog Llafur Cymru Leanne Wood o roi rhwydd hynt i’r Ceidwadwyr tros Forlyn Llanw Abertawe. Heddiw, mae Llafur yn rhoi rhwydd hynt i’r Torïaid drwy ail-ysgrifennu’n llwyr y cynnig o ddiffyg hyder gan Rhun ap Iorwerth yn Ysgrifennydd Cymru. Rhagrithwyr llwyr.”

Fe fydd y cynnig yn cael ei drafod y prynhawn yma.