Mae Andrew RT Davies wedi ymddiswyddo ar ôl saith mlynedd yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad.

Fe gafodd ei feirniadu’n ddiweddar am awgrymu bod cwmnïau fel Airbus, drwy fygwth cau safleoedd yng ngwledydd Prydain, yn tanseilio proses Brexit.

Fe ddaeth y newyddion am ei ymddiswyddiad yn dilyn cyfarfod fore heddiw (dydd Mercher, Mehefin 27).

Mewn datganiad, dywed ei bod wedi bod yn “fraint o’r mwyaf” cael arwain y Ceidwadwyr Cymreig ers 2011, ac mae’n galw am sicrwydd y bydd ei olynydd yn cael ei benodi gyda “phleidlais lawn” ymhlith cefnogwyr y blaid ar lawr gwlad.

Dywed hefyd y bydd yn parhau i gefnogi gweithgarwch y Ceidwadwyr “yng Nghymru ac yn San Steffan”.

Mae wedi diolch i Brif Weinidog Prydain, Theresa May am ei chefnogaeth, ac mae’n dymuno’n dda iddi “wrth gyflawni ar ran y wlad a’r Blaid Geidwadol”.