Carwyn Jones
Fe fydd canolfannau cyd-drefnu gwasanaethau brys i ymateb i achosion brys gwladol yn cael eu hagor yn swyddogol heddiw gan Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones.

Mae’r  canolfannau yng Nghaerfyrddin, Bae Colwyn a Chaerdydd wedi cael eu hariannu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar awdurdod heddlu Cymru.

Dywed swyddogion y bydd y  canolfannau yn darparu adnoddau o’r radd flaenaf i sicrhau bod gwasanaethau brys ac asiantaethau yng Nghymru yn gallu ymateb yn brydlon i unrhyw achos brys gwladol fel llifogydd mawr. Y gobaith yw y bydd y canolfannau yn creu rhwydwaith i helpu cynllunio aml-asiantaeth, hyfforddiant ac ymarferion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £10 miliwn tuag at y prosiect. Fe fydd Carwyn Jones yn ymweld â’r ganolfan yng Nghaerfyrddin bore ma ar gyfer lansiad swyddogol y ganolfan.

Dywedodd: “Mae’r prosiect yma yn esiampl wych o’r sector gyhoeddus yng Nghymru yn gweithio gyda’u gilydd i helpu pobl Cymru.”