Mae dyn 43 oed wedi cael ei arestio yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd ddoe lle cafodd dyn ei drywanu.

Mi gafodd Heddlu De Cymru eu galw yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ger Heol Ninian yn y brifddinas am tua 6.30yh neithiwr (Mehefin 25).

Mi gafodd dyn 42 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae mewn cyflwr sefydlog ar hyn o bryd.

Y gred yw fod y ddau unigolyn yn adnabod ei gilydd.