Mae 76% o ddoctoriaid yng Nghymru yn dweud eu bod wedi gweld dirywiad yn y Gwasanaeth Iechyd dros y flwyddyn ddiwetha’, yn ôl cadeirydd cymdeithas feddygol.

Dyna fydd David Bailey, cadeirydd y Gymdeithas Feddygol Brydeinig yng Nghymru (BMA Cymru), yn ei ddweud yng nghyfarfod blynyddol y gymdeithas yn Brighton heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 26).

Yn ei anerchiad, mi fydd hefyd yn nodi bod:

* 38% yn teimlo bod pwysau’r system yn atal staff rhag darparu gofal diogel;

* 70% yn gweithio oriau ychwanegol oherwydd prinder staff;

* Rheolaeth dros rota ar gyfer rhai doctoriaid ddim yn “ddigonol”.

Ond mi fydd David Bailey hefyd yn dweud bod yna rai camau positif yn cael eu cymryd o fewn y Gwasanaeth Iechyd, a gyda hyn mae’n croesawu cynllun newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal iechyd a chymdeithasol.

Mi fydd y cynllun hwn yn golygu mwy o barch i staff ac ymrwymiad i’w lles, ynghyd â phwyslais ar benodi rhagor o staff.

Dyma “arwyddion clir”, meddai, fod Llywodraeth Cymru yn “dechrau deall beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol”.

Ond… angen mwy o waith

Er hyn, mae David Bailey yn dweud bod yna ragor o waith i’w wneud, a bod angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo ymhellach.

“Mae’r diffyg ymrwymiad i ddarparu nawdd cadarn ac amserlenni ar gyfer gweithredu, er hynny, yn parhau i wneud aelodau [o BMA Cymru] yn nerfus,” meddai ymhellach.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflymu’r cynnydd yn y sectorau hyn a mynd i’r afael â’r gwaith o gydweithio â’r proffesiwn i greu Gwasanaeth Iechyd y byddai’r staff yn gallu bod yn falch ohono ac a fydd yn darparu i gleifion Cymru.”