Mae penderfyniad llywodraeth Prydain i droi cefn ar gynllun i greu morlyn llanw yn Abertawe, wedi’i ddisgrifio fel “gwarth” gan wleidyddion ac ymgyrchwyr yng Nghymru.

Fe ddaeth y cyhoeddiad yn San Steffan ddiwedd y pnawn heddiw (dydd Llun, Mehefin 25) na fyddai’r llywodraeth yn buddsoddi yn y cynllun i greu ynni ‘gwyrdd’ trwy harneisio egni’r llanw.

Wrth wneud y cyhoeddiad hirddisgwyliedig yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd y Gweinidog Busnes ac Ynni, nad oedd y cynllun yn cynnig “gwerth am arian”.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil misoedd o ansicrwydd tros dynged y prosiect, ac ymdrechion gan sawl ochr i’w achub.

Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynnig buddsoddi £200m yn y fenter, dan yr amod bod Llywodraeth San Steffan hefyd yn ei gefnogi, gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, hefyd yn gefnogwr.

Ac mae datblygwyr y cynllun, Tidal Lagoon Power (TLP), yn honni iddyn nhw gynnig dêl rhatach i weinidogion, er mwyn ei achub.

Roedd y cynllun wedi derbyn cefnogaeth eang gan wleidyddion, pobol fusnes ac ymgyrchwyr amgylcheddol, a oedd yn gweld y cyfle i greu rhwydwaith o forlynnoedd a allai gynnwys Casnewydd, Caerdydd a Bae Colwyn hefyd.

Ymateb Plaid Cymru 

Mae Plaid Cymru wedi ymateb trwy alw am pleidlais o ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, ac wedi galw am ddiddymu ei swydd.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wedi methu a gwneud yr hyn sydd orau i Gymru sawl tro,” meddai’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Simon Thomas.

“Dyma’r enghraifft ddiweddara’ o hynny… rhaid iddo ymddiswyddo.”

Meddai’r Ceidwadwyr… 

“Does dim gwadu bod hyn yn benderfyniad a fydd yn digalonni Abertawe, yr ardal ehangach, a phobol fy etholaeth,” meddai’r Aelod Cynulliad Ceidwadol, Suzy Davies, sy’n gynrychiolydd de orllewin Cymru.

“Mae’r syniad o ynni llanw yn parhau’n boblogaeth dros ben yng Nghymru, ac rydyn ni’n dal yn ffyddiog bod modd i’r Deyrnas Unedig a datblygwr gydweithio ar gynllun tebyg i Gymru yn y dyfodol.”

“Gwarth”

“Mae penderfyniad y Ceidwadwyr i wrthod Morlyn Llanw Abertawe yn warth,” meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cefnogi Morlyn Llanw Abertawe yn barhaus, fel rhan allweddol o’n cynlluniau i ddatblygu economi arloesol, radical a gwyrdd yng Nghymru.

“Dyw’r Ceidwadwyr ddim yn rhannu ein hamcan ac mae hynny’n hynod o siomedig.”