Mae gŵr o Ben-y-bont ar Ogwr wedi mynd ati i greu gwefan sy’n ceisio casglu pob podlediad Cymraeg mewn un lle.

Mae gwefan Y Pod wedi ei chreu gan Aled Jones, sy’n gynhyrchydd digidol gyda’r BBC. Mae’n dweud iddo fynd ar ôl podlediadau Cymraeg ar ôl sylwi bod darllediadau cyfrwng Cymraeg yn tueddu i fod “dros bob man” ar y we.

“Mae lot o gwmnïau mawr yn buddsoddi mewn podlediadau, ac mae’n faes y mae cwmnïau yn gweld sy’n tyfu eithaf tipyn,” meddai wrth golwg360.

“Felly, man a man cael un lle i dynnu rhai Cymraeg at ei gilydd, fel bod pobol yn gallu mynd i un lle i lawrlwytho pob dim…”

Sbarduno eraill

Mae’r wefan wedi cael ei chynllunio ar ffurf adrannau, gydag un adran yn cynnwys podlediadau ar gyfer dysgwyr, a rhai eraill yn cynnwys rhaglenni radio yn Gymraeg a phodlediadau cyffredinol.

Ac mae Aled Jones yn ychwanegu mai ei fwriad hirdymor yw y bydd pobol yn cael eu “sbarduno” i greu rhagor o bodlediadau wrth edrych ar y wefan…

“Dw i’n gobeithio y bydd pobol yn gweld y podlediadau, ac yn dweud, ‘reit, mae’r rhain yn bodoli, felly be sydd ddim yn bodoli?

“Bydden nhw’n gallu gweld be’ sy’n gweithio yn Saesneg, a beth sydd yn y Gymraeg, a pham nad yw e yn Gymraeg.”