Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod y dyn a gafodd ei daro gan gar ym mhentref Bryn-mawr ddoe (dydd Sul, Mehefin 24), wedi marw o’i anafiadau.

Mi gafodd yr heddlu eu galw am tua 2:30yh yn sgil adroddiadau bod damwain traffig wedi digwydd ar Sgwâr y Farchnad, Bryn-mawr.

Mae dyn 29 oed o ardal Bryn-mawr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, ac maen parhau yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n cynnig cymorth arbenigol i deulu’r ymadawedig, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.