Mae dynes wedi cael ei hachub o’r môr ar ôl mynd i drafferthion ym Mae Colwyn nos Sadwrn.

Daeth criw bad achub o hyd i’r ddynes am 11 o’r gloch yn glynu wrth bostyn 100m o’r pier.

Roedd y wraig yb flinedig ac yn dioddef yn sgil yr oerfel, ac fe gafodd driniaeth mewn ambiwlans.