Mae athrawon sy’n aelodau o undeb NASUWT Cymru wedi beirniadu’r ffordd y gall unigolion wneud sylwadau dilornus am athrawon yn gyhoeddus ar wefannau cymdeithasol.

Daeth eu sylwadau yn ystod cynhadledd flynyddol yr undeb ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.

Mewn arolwg yn ddiweddar, dywedodd 19% o’r athrawon a atebodd fod sylwadau negyddol wedi cael eu gwneud amdanyn nhw gan ddisgyblion a rhieni ar wefannau cymdeithasol – a’r sylwadau hynny’n cyfeirio at eu gallu fel athrawon a’u hedrychiad.

Dywedodd 70% ohonyn nhw eu bod nhw wedi adrodd am y digwyddiadau wrth eu cyflogwyr, yr heddlu neu’r wefan gymdeithasol.

O blith y rhai oedd wedi troi at eu cyflogwyr, dywedodd 50% nad oedd camau pellach wedi cael eu cymryd. Ac mewn 23% o’r achosion lle’r oedd camau pellach, dywedodd eu hanner nad oedden nhw’n teimlo fel pe baen nhw wedi cael digon o gefnogaeth.

O blith y rhai a aeth at yr heddlu, dywedod 69% na chafodd camau pellach eu cymryd.

Ac o safbwynt gwefannau cymdeithasol, doedd dim camau pellach mewn 75% o achosion.

‘Trolio’

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol NASUWT, Chris Keates, mae athrawon yn wynebu cael eu barnu ar sail sylwadau gan ‘droliaid’ – “rhieni nad ydyn nhw’n trafferthu i gysylltu â’r ysgol i gwyno, ond yn postio’r cwynion yn uniongyrchol ar-lein”.

“Yr effaith ar athrawon,” meddai, “yw diflastod, cywilydd, salwch, colli hyder a difetha gyrfaoedd.

“Mae NASUWT wedi ymgyrchu’n ddiflino ers nifer o flynyddoedd i dynnu sylw at yr angen i warchod athrawon rhag cael eu sarhau ar wefannau cymdeithasol.

“Rhaid i’r sefydliad addysg drwy Gymru gymryd y mater hwn o ddifri a sicrhau bod gofyn i ysgolion nid yn unig i gael polisi o ddiffyg goddefgarwch llwyr ond hefyd i ddefnyddio’r holl sancsiynau sydd ar gael iddyn nhw er mwyn mynd i’r afael â sarhau staff.”