Cafodd nifer o ddigwyddiadau eu cynnal ar bontydd y de ddydd Sadwrn i dynnu sylw at ymgyrch Yes Cymru i sicrhau annibyniaeth i Gymru.

Ymgyrch a gafodd ei sefydlu gan Yes Cymru Cwmbrân oedd ‘Baneri ar Bontydd’ (Banners on Bridges), ond fe gynhaliodd sawl cangen ddigwyddiadau tebyg yn eu hardaloedd yn ystod y dydd.

Ymhlith y canghennau eraill oedd wedi cymryd rhan yn y digwyddiad roedd Abertawe, Llanelli, Merthyr Tudful, Pontypridd a Phontypŵl.

‘Syml ond effeithiol’

Wrth siarad â golwg360 ar ôl y digwyddiad, dywedodd cadeirydd Yes Cymru Abertawe, Tricia Roberts: “Dyma’r digwyddiad cyntaf i gael ei gydlynu ar lawr gwlad ar draws grwpiau Yes Cymru – digwyddiad syml ond effeithiol.

“Yn ogystal â Yes Cymru Abertawe, fe wnaeth Yes Llanelli ymuno â ni, fe wnaeth Yes Merthyr a Yes Pontypridd ddigwyddiad gyda’i gilydd ac fe wnaeth Yes Cwmbrân a Yes Pontypŵl ddigwyddiad gyda’i gilydd.”

Daeth criw Yes Cymru Abertawe at ei gilydd ar bont uwchben Ffordd Fabian, y brif ffordd i mewn i’r ddinas o’r dwyrain.

Ychwanegodd Tricia Roberts: “Roedden ni wedi dewis y bont hon gan ei bod uwchben ffordd brysur ac mae’n amlwg iawn. Roedd yn fwy diogel na’r M4.

“Doedden ni ddim eisiau mynd ar draws cerddwyr sy’n defnyddio’r bont, felly roedd y bont hon yn addas i hyrwyddo Yes Cymru. A dyna ymateb gawson ni!

“Ces i fy synnu gan bobol yn canu cyrn eu ceir, yn bloeddio “Yes!” a “Rhyddid!”, bodiau yn yr awyr a thaflu breichiau i’r awyr.

“Roedd yn awr bositif ac Ie! Fe wnawn ni hyn eto.”

Ac fe gafodd englyn ei gyfansoddi ar gyfer yr achlysur yn Abertawe: