Wylfa
Mae’r grwp gwrth-niwclear PAWB wedi llongyfarch teulu o ffermwyr llaeth ar Ynys Môn ar ôl iddyn nhw wrthod gwerthu eu tir i gwmni sydd am godi ail atomfa ger Wylfa.

Mae cwmni Horizon Nuclear am godi dau neu dri adweithydd ychwanegol ar yr ynys ac eisoes yn prynu tir  ychwanegol ar gyfer y prosiect.  Yn ôl PAWB, mae nhw wedi bod yn defnyddio “tactegau bwlio” i bwyso ar berchnogion i werthu eu tir iddyn nhw.

Roedd Horizon yn awyddus i brynu talp sylweddol o dir gan Richard a Gwenda Jones a’r teulu sy’n berchen fferm Caerdegog ger Llanfechell.  Bu’r fferm ym meddiant y teulu ers y ddeunawfed ganrif, ac mae Owain y mab eisoes yn rhan o’r busnes ac yn awyddus i barhau â’r etifeddiaeth teuluol. Ond mae’r teulu wedi gwrthod gwerthu’r tir.

Dywed  PAWB eu bod nhw’n llongyfarch teulu Caerdegog am sefyll yn gadarn yn erbyn y cwmni.

‘Bygythiad i bob ffermwr ar yr ynys’

Dywedodd Robat Idris ar ran PAWB: “Loes calon i mi oedd clywed bod tir Caerdegog, a bywoliaeth y teulu sy’n byw yno dan fygythiad gan gwmni Horizon sydd eisiau adeiladu Wylfa B. Dw i’n nabod y teulu drwy fy ngwaith blaenorol fel milfeddyg, ac yn llawn edmygedd ohonynt am fynnu sefyll yn erbyn trachwant y cwmni hwn.

“Mae’n amlwg nad ydi Horizon yn deall nad arian ydi popeth, a bod yna werthoedd tu hwnt i’w deall nhw. Dw i’n mawr obeithio y bydd y teulu hwn ac unrhyw ffermwyr eraill sy’n wynebu colli tir ac eiddo oherwydd Wylfa B yn cael cefnogaeth ym Môn a thrwy Gymru gyfan. Mae Wylfa B yn fygythiad i bob ffermwr ar yr ynys, hyd yn oed os nad oes yna fwriad i fynd â’u tir.

“Un ddamwain neu gamgymeriad yn achosi gollyngiad ymbelydrol difrifol, a fydd neb eisiau prynu’r cynnyrch rhagorol sydd i’w gael yma”.

Mae PAWB yn galw ar y ddwy undeb amaethyddol i sefyll yn gadarn yn erbyn difwyno tir Môn gan Horizon, a gwrthwynebu prosiect Wylfa B yn ei gyfanrwydd.  Mae PAWB hefyd yn gofyn i Gyngor Sir Ynys Môn ac Aelod Cynulliad a Seneddol Ynys Môn i ailasesu eu cefnogaeth i brosiect mor ddinistriol a Wylfa B.