Harry Patterson (trwy law'r heddlu)
Mae tad bachgen bach pump oed fu farw ar ôl iddo gael ei daro gan gar y teulu, wedi talu teyrnged i’w fab.

Credir bod Harry Patterson o Alltwen, ger Pontardawe wedi dringo i mewn i’r car ac wedi rhyddhau’r brec llaw. Mae’n debyg ei fod wedi neidio allan o’r car ar ôl sylweddoli bod y Seat yn rholio lawr yr allt serth, gan daro ei ben.

Roedd ei frawd Dylan, sy’n saith, wedi gweld y ddamwain, ar ôl iddyn nhw fod yn chwarae gyda’i gilydd funudau ynghynt.

Cafodd Harry ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn y ddamwain am 5.45pm nos Fawrth ond bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei rieni, Michelle a Christian Patterson, y ddau yn actorion, yn cael cymorth gan eu cymdogion yn dilyn y drasiedi.

‘Direidus’

Dywedodd Mr Patterson fod ei fab yn “wych” ac roedd ei fryd ar fod yn gogydd pan oedd yn hŷn. Ychwanegodd bod Harry yn blentyn bach hapus ac mae cymdogion wed ei ddisgrifio fel bachgen bach “direidus”.

Mae’r heddlu yn dal i archwilio’r car er mwyn ceisio darganfod beth aeth o’i le.

Mae’r heddlu wedi apelio ar unrhywun sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r ddamwain i gysylltu â nhw ar 01656 655555 neu Crimestoppers ar 0800 555 111.