Mae Heddlu Gwent wedi enwi’r dyn fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng cyffordd 29 a chyffordd 28 yr M4 ddydd Iau.

Bu farw Jeffrey Paul Williams, 56 oed o Gwmbrân, o ganlyniadau i anafiadau difrifol.

Mae dyn 60 oed o Swydd Buckingham wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae teulu Jeffrey Paul Williams yn cael eu cefnogi gan yr heddlu wrth i’r ymchwiliad barhau.