Mae dau ddyn wedi’u carcharu ar ôl i ffeit y tu allan i glwb nos yng Nghasnewydd arwain at gar yn cael ei yrru drwy dyrfa o bobol.

Roedd Benjamin Thomas, 19, a Callum Banton, 20, yn ymladd gyda phobol eraill y tu allan i glwb y Courtyard ar 29 Ebrill.

Cafodd dwy ddynes eu niweidio’n ddifrifol ar ôl i’r car yrru’n fwriadol at bobol y tu allan i’r clwb yn yr oriau mân.

Doedd y ddau ddyn ddim yn y car pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, ond fe wnaeth y ddau bleidio’n euog i’r ffrwgwd.

Er hynny, dywedodd y Barnwr John Jenkins y gallai’r ddau fod wedi creu aflonyddwch difrifol yn sgil eu hymddygiad.

Mae disgwyl i’r dyn sydd wedi’i gyhuddo o yrru’r car, McCauley Cox, 18, sefyll ei brawf yn ddiweddarach eleni, ar ôl pledio’n ddieuog i achosi niwed corfforol difrifol.

Mae Benjamin Thomas yn dechrau ar gyfnod o 11 mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc, tra bod Callum Banton yn dechrau ar ddedfryd o 10 mis.