Mae dyn a laddodd casglwr ceiniogau a gwerthu ei gasgliad, wedi ei gael yn euog o ddynladdiad.

Roedd Paul Paget, 54, wedi cyfaddef achosi marwolaeth Anthony Bubbins, 57, ar gamgymeriad yn ei dŷ yng Nghasnewydd – ond mi wadodd bod hynny’n fwriadol.

Roedd wedi cyfaddef cyflawni byrgleriaeth, ond gwadodd cyhuddiad o lofruddio gerbron Llys y Goron Casnewydd.

Dywedodd Paul Paget bod yr ymosodiad wedi digwydd wedi i Anthony Bubbins gyfaddef ei fod wedi ymosod ar ddyn yn rhywiol.

Bydd yn derbyn dedfryd ddydd Gwener nesaf, Mehefin 29.