Mae heddlu wedi enwi dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Casnewydd ddydd Mercher (Mehefin 20).

Bu farw Alexander John Merriman, 61, o Lundain, o’i anafiadau ar ôl cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Y gred ydi bod ei gar Audi Q5 glas wedi gadael y ffordd rhwng cyffyrdd 24 a 23 ar y M4, a’i fod wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben.

Roedd dyn arall yn yr un cerbyd wedi cael mân anafiadau. Dim ond un cerbyd oedd yn y ddamwain.

Mae Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad, ac yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw.