Mae Branwen Niclas o Gymorth Cristnogol Cymru wedi dweud wrth Golwg360 sut mae’r elusen yn ceisio lliniaru effeithiau’r sychdwr yng Ngogledd Kenya, ar ôl iddi ymweld â phentref Segel ym Marsabit, sydd heb gael glaw   ers tair blynedd.

“Ar y ffordd yno, roeddwn i’n pasio cyrff gwartheg, camelod a geifr achos dydi’r anifeiliaid ddim yn ddigon cryf i allu cyrraedd dŵr neu’r borfa am ei fod o mor bell,” meddai Branwen Niclas. “Maen nhw’n disgyn yn farw oherwydd eu bod nhw’n wan, mae llawer ohonynt yn marw o afiechydon fel clwy’ y traed a’r gennau,” meddai.

Bugeiliaid crwydrol, cymuned o bobl y Gabra sy’n byw yn Segel, meddai. Ond, yn hytrach na chrwydro, maen nhw wedi ymsefydlu yno bellach oherwydd nad oes porfa a dŵr am filltiroedd maith.

‘Tanceri dŵr’

Mae’r CCS (Christian Community Services), partneriaid Cymorth Cristnogol, wedi cychwyn mynd a thanceri dŵr yno ers yr Haf, meddai Branwen Niclas.

“Mae’r dŵr wedi trawsnewid pethau iddyn nhw. Heb y dŵr, mi fysan nhw’n gorfod cerdded 70 cilomedr i’r pwynt dŵr agosaf,” meddai gan ddweud bod “bywyd yn anodd ac yn fregus iawn” i bobl y gymuned yno.

“Mae dŵr y CCS yn golygu bod gan y teuluoedd ddigon o ddŵr i goginio ac yfed. Ond, roedden nhw’n dweud wrtha i ddoe nad ydyn nhw’n  ymolchi ac nad oeddent eisiau gwastraffu’r dŵr yn golchi’u dillad gan ei fod o mor werthfawr a phwysig”.

Mae pobl y pentref ynhollol ddibynnol ar yr hyn y mae’r CCS yn darparu” meddai.

“Rydan ni’n gweithio gyda gweithiwr iechyd lleol yn y gymuned ers blwyddyn  ac roedd o’n dweud wrtha i ei fod o’n 47 blwydd oed ac nad oedd o wedi gweld y fath sychdwr yn ei fywyd,” meddai.

Er bod darogan am law yn yr ardal fis Hydref, dyw hynny ddim yn golygu y bydd problemau’r ardal ar ben. “Ar un llaw, mae’n newyddion da iawn. Ond, ar y llaw arall, mae’r tir mor sych a chaled, mae perygl o lifogydd – flash floods – os yw’r  glaw yn eithaf trwm achos nad yw’r tir yn gallu dal yr holl law”.

‘Plant yn bwyta pridd’

“Roedd merch o’r enw Pauline, sy’n 30 oed ac yn fam i bump o blant ym mhentref Parkinshon yn dweud weithiau bod plant mor llwglyd fel eu bod nhw’n bwyta pridd,” meddai.

“Weithiau, roedd hi’n mynd heb fwyd ei hun i roi bwyd i’r plant. Ond, roedd ganddi un mab 9 mis oed sy’n cael ei fron fwydo. Felly, os oedd hi’n mynd heb fwyd, doedd dim llaeth ar gyfer y babi. Roedd h’n dweud nad oes dim byd gwaeth na bod babi’n sugno a bod dim llaeth iddo.”

Roedd sefyllfa’r plant yn y pentref wedi dirywio ers fis Ebrill pan aeth yno ddiwethaf, meddai Branwen.

“Ro’ ni’n gweld y gwahaniaeth efo’r plant bach ers Ebrill diwethaf. Roedd eu llygaid nhw’n dyfrio, eu trwynau’n rhedeg ac roedd arwyddion o ddiffyg maeth gyda boliau lot o’r plant bach wedi chwyddo,” meddai.

Mae pobl y pentref yn  cael cymorth bwyd gan y Llywodraeth drwy’r World Food Programme. Y CCS sy’n darparu tanceri dŵr i’r pentref a hefyd loriau o fwyd anifeiliaid.

“Mae hynny yn golygu gymaint i bobl fel Pauline, mae wedi trawsnewid ei bywyd hi. Mae’r geifr yn iachach, eu crwyn nhw’n fwy llyfn a’u llygaid yn fwy disglair. Maen nhw hefyd yn cerdded yn gryfach. Mae hynny yn golygu ei bod yn gallu godro’r geifr a rhoi llaeth i’r plant.”

Roedd y pentref hwn yn gwbl hunangynhaliol ddwy flynedd yn ôl, ond dros y deunaw mis diwethaf – maen nhw wedi colli tua 10 mil o anifeiliaid i effeithiau’r sychdwr. Mae Cymorth Cristnogol a phartneriaid y mudiad yn parhau i weithio yno gan geisio lliniaru effeithiau’r sychdwr.