Mi fydd £12m yn cael ei fuddsoddi mewn cynllun arall sy’n ceisio mynd i’r afael â diweithdra o fewn y gymuned.

Mae’r Cynllun am Waith a Mwy yn ddilyniant i gynllun sydd eisoes yn bodoli, sef Cymunedau ar Waith a gafodd ei lansio gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, ddechrau’r flwyddyn.

Nod y ddau gynllun gyda’i gilydd yw rhoi cymorth i’r bobol hynny sydd ddim â’r sgiliau i geisio dod o hyd i waith, a hynny trwy feithrin sgiliau cyflogadwyedd.

Mae’r ddau’n darparu gwasanaeth mentora a chymorth dwys i unigolion sy’n methu â chael gwaith oherwydd rhwystrau cymhleth, fel salwch.

Trwy gyfrwng y rhaglenni wedyn, mae modd i’r unigolion hyn ailsefydlu eu hunain yn y byd gwaith.

“Cefnogi pobol”

“Mae’r cynllun y gwnes i ei lansio yn gynharach eleni yn cydnabod bod rhai pobol yn dod ar draws rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith, a’i nod yw helpu’r rheiny sydd bellach o’r farchnad waith i mewn i fyd gwaith, gan edrych ar sefyllfa benodol pob unigolyn,” meddai Eluned Morgan.

“Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn enghraifft berffaith o’r dull gweithredu hwn, gan gefnogi pobol i ddilyn hyfforddiant pellach neu ddarparu cyngor a chymorth ymarferol i helpu pobol i gyflawni’r hyn y bydden nhw’n dymuno ei wneud.

“Bydd y rhaglen yn adeiladu ar lwyddiant rhaglenni tebyg eraill sydd eisoes wedi dangos bod y dull hwn yn gweithio.”