Mi fydd caplaniaid ar gyfer y Lluoedd Arfog yn parhau i gael eu hyfforddi yng Nghymru am y pum mlynedd nesa’.

Mae Coleg Mihangel Sant yng Nghaerdydd, sef coleg diwinyddol yr Eglwys yng Nghymru, wedi sicrhau cytundeb newydd gan y Weinidogaeth Amddiffyn i ddarparu caplaniaid ar gyfer y fyddin.

Mae’r cytundeb yn cael ei adnewyddu bob pum mlynedd, ac er gwaetha’ cystadleuaeth wrth golegau a phrifysgolion eraill, mae Coleg Mihangel Sant wedi bod yn gwneud y gwaith ers 2001.

Cynnig cymorth

“Mae caplaniaid y fyddin yn asiantiaid o drawsnewid i’r rhannau hynny o gymdeithas a’r byd y mae’r eglwys draddodiadol yn methu eu cyrraedd,” meddai Prifathro Coleg Mihangel Sant, Y Parchedig Athro Jeremy Duff.

“Mi fedrwch eu darganfod yn rhai o’r mannau mwya’ peryglus yn rhoi cefnogaeth ddiwinyddol, gofal bugeiliol ac arweiniad moesol. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth sylweddol.”