Mae pump o ferched o Sir Gaerfyrddin yn cerdded lled Cymru i gofio am eu ffrind, Nia Wyn Thomas, a fu farw yn 25 oed o gyflwr prin oedd yn effeithio ar ei system imiwnedd.

Bydd Nia Haf Jones, Caryl Ann Evans, Manon Ifan, Beca Davies a Gwen Page Roberts o Gaerfyrddin yn cerdded 45 milltir dros ddau ddiwrnod dechrau mis Gorffennaf i godi arian at y Gymdeithas CGD – clefyd granulomatous cronig.

Bydd y daith yn mynd â’r criw o bentref Ceri, ar y ffin â Lloegr, gan orffen ym Mae Clarach, ger Aberystwyth, gan droedio llwybrau, caeau a mynyddoedd ar y ffordd.

Helpu i gofio a galaru

“Roedd Nia bach yn crazy, yn y ffordd orau. Pan oedd hi’n dod mewn i ystafell, roeddech chi wastad yn gwybod bod hi yna achos roedd hi’n gwneud jôcs gwirion ac yn actio’n wirion,” meddai Gwen Page Roberts am ei ffrind.

“Roedd hi’n really lively, yn llawn egni, llawn bywyd.”

Roedd Gwen Roberts, 25, yn teithio yn Nepal ym mis Rhagfyr y llynedd pan glywodd y newyddion bod ei ffrind ysgol wedi marw.

Dywed y bydd y daith yn ei helpu yn bersonol i gofio a galaru dros Nia gan nad oedd wedi gallu mynd i’w hangladd.

“I fi yn bersonol, fi’n credu bydd e’n helpu achos fe wnes i golli’r cyfle i fynd i’r angladd, fi’n gweld hyn fel amser fi i commemorato hi a dweud hwyl fawr mewn ffordd,” meddai.

“Mae e jyst yn rhoi cyfle i ni fel grŵp i feddwl am hi mewn ffordd bositif.”

A hithau miloedd o filltiroedd o Gymru, roedd clywed y newyddion ei bod wedi colli ffrind yn “bisâr” meddai Gwen Page Roberts.

“Ar ôl iddo sinco mewn roeddwn i’n amlwg yn ypset iawn ond i fod yn onest achos bod fi’n gwybod bod ddim gen i support system achos bod fi ar ben fy hunan ochr arall y byd, roeddwn i wedi gorfod gwthio fe i gefn fy meddwl i achos bod doeddwn i ddim yn mynd i allu ymdopi gyda hyn.

“[Erbyn hyn] fi wedi derbyn go iawn beth sydd wedi digwydd. Mae’n dda nawr achos mae gen i’r merched yma.”