Mae heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth dyn yn ardal y Rhath, Caerdydd yn apelio am wybodaeth am feic.

Fe ddioddefodd Damian John Hill, 39, anafiadau angheuol ar ôl ymosodiad ar Stryd Oakfield yn oriau mân Mai 27. Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle bu farw o’i anafiadau.

Mae dyn a dynes – Kalib Steven Facey, 19, a Philomena McDonagh, 33 – eisoes wedi’u cyhuddo o’i lofruddio.

Ond, mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i’r achos, a bellach yn chwilio am wybodaeth yn gysylltiedig â beic mynydd GT oren/coch.

Fe gafodd y beic ei ddal gan gamerâu teledu cylch cyfyng, yn ardal y llofruddiaeth ar adeg y drosedd.