Mae’r syniad bod Cymry ond yn troi i siarad Cymraeg pan mae Saeson yn cerdded i fewn i dafarn, yn un “pathetig”, yn ôl perchennog tafarn o Fethesda sydd wedi cael ei beirniadu ar y we oherwydd yr iaith.

Daw sylw Dewi Siôn wedi i’w dafarn – Tafarn y Siôr yn ardal Carneddi, Beteheda – dderbyn adolygiad negyddol un seren ar wefan TripAdvisor am fod Cymraeg yn cael ei siarad yno.

“Fe aeth grŵp ohonom yno ar ôl cerdded yn yr ardal, ac yn syth bin, pan wnaethon ni archebu wrth y bar, fe sylweddolodd y bobol leol mai Saeson oedden ni a dechrau siarad Cymraeg a chwerthin,” meddai’r adolygiad, cyn dyfarnu’r sgôr isaf y gallwch ei roi i sefydliad.

Bellach mae’r neges wedi cael ei dileu, ond cyn i hynny ddigwydd, mi atebodd Dewi Siôn i’r neges, gan dynnu sylw at ei “agwedd”. Mae’r ddwy neges wedi ennyn ymateb ar Twitter.

“Pathetig”

“Dw i’n meddwl bod o’n pathetig i fod yn onest, bod y meddylfryd yna dal i fod,” meddai wrth golwg360. “Dw i ddim yn dallt. ‘Sa chdi’m yn mynd i Ffrainc a chwyno am Ffrangeg.”

Mae Dewi Siôn yn nodi ei fod erioed wedi cael y fath gŵyn o’r blaen, ac yn ffyddiog nad ffug gyfri neu drol oedd awdur y sylw.

“Oedd o’n meddwl beth oedd o’n ddeud, ac mae hynna’n drist,” meddai Dewi Siôn.