Mae’r cysylltiad rhwng Cymru ac Ohio “yr un mor bwysig” a’r cysylltiad â Phatagonia, meddai Cymro sy’n fyfyriwr yn yr Unol Daleithiau.

Mae eleni’n 200 mlynedd yn union ers i chwe theulu o Ddyffryn Aeron ymfudo i dalaith Ohio, digwyddiad a arweiniodd tua 3,000 o Gardis i symud yno yn ddiweddarach.

Ac yn ôl Dan Rowbotham o Langeithio, sydd ar hyn o bryd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Rio Grande yn ne-ddwyrain y dalaith, mae dathlu’r cysylltiad yma “mor bwysig”.

“Mae hwn yn rhan o’n hanes ni,” meddai. “Fel rhywun o Geredigion, dw i wedi gweld llinachau teulu pobol sy’n dod o’r un ardal â mi, sy’n ddiddorol iawn.

“Mae pobol yn hynod o falch i ddweud bod ei hen, hen dad-cu neu fam-gu yn dod o’r ardal, a dw i’n meddwl ein bod ni angen cymryd hwnna, sef bod yna bobol 4,000 o filltiroedd i ffwrdd, a sydd heb fod i Gymru, yn falch eu bod nhw â’r gwaed hwnnw.

“Dw i’n meddwl bod y cyswllt yma yr un mor bwysig a’r cyswllt ym Mhatagonia, i fod yn onest, o ran y niferoedd aeth draw a’r sialensiau oedd gyda nhw.”

Y dathlu

I ddynodi 200 mlynedd ers i’r Cymry cynta’ ymfudo i Ohio, mi fydd cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn ardal Aberaeron yr wythnos nesa’.

Mi fydd y rheiny’n digwydd rhwng Mehefin 22 a 30, ac yn cynnwys cyngerdd arbennig lle bydd y darlledwr a’r newyddiadurwr, Huw Edwards, y gantores, Gwawr Edwards, a’r delynores Catrin Finch yn perfformio.

Mi fydd hefyd cymanfa ganu awyr agored, perfformiad o ddrama arbennig, ynghyd â nosweithiau cymdeithasol mewn tafarnau lleol yn rhan o’r arlwy.

Dyma glip sain o Dan Rowbotham yn edrych ymlaen at yr wythnos ddathlu…