Mae’r ffaith fod Arolwg Cenedlaethol Cymru’n dangos bod 67% o bobl yn dymuno gweld mwy o gefnogaeth i’r Gymraeg yn “neges glir” i wleidyddion, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Roedd yr arolwg wyneb-yn-wyneb o fwy na 11,000 o bobol dros 16 oed wedi dangos bod 86% yn teimlo bod yr iaith yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi, a oedd yn codi i 97% ymhlith siaradwyr Cymraeg.

Roedd 62% o bobol ddi-Gymraeg yn dweud y byddan nhw’n hoffi gallu siarad yr iaith, ac ymysg y rheiny a oedd yn medru rhywfaint o’r Gymraeg yn barod, roedd 62% dymuno ei siarad yn well.

Wrth ymateb wedyn i’r datganiad ‘Bydd yr iaith Gymraeg yn gryfach mewn 10 mlynedd’, fe ddywedodd 49% o siaradwyr Cymraeg a 38% o bobl ddi-Gymraeg eu bod yn cytuno.

“Neges glir”

 Yn ôl Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith, mae’r ffigyrau hyn yn dangos bod yna “gefnogaeth i’r iaith”, a bod y cyhoedd yn “ysu” am weld gwleidyddion yn gweithredu.

“Mae yna neges glir i bawb mewn awdurdod yn y canlyniadau hyn – byddwch yn ddewr a phenderfynol wrth weithredu dros y Gymraeg,” meddai.

“Yn lle gwanhau hawliau iaith drwy eu cynlluniau i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg, dylai’r Llywodraeth sylweddoli bod y cyhoedd am gael hawliau cryfach i ddefnyddio’r iaith.

“Dydy pobol Cymru ddim eisiau Deddf Iaith wannach. Maen nhw am weld hawliau iaith yn yr holl sector preifat.”