Mae’r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford wedi croesawu canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru am 2017-18 sy’n dangos canrannau uchel o bobl yn fodlon â’r gwasanaethau cyhoeddus maen nhw’n eu derbyn.

Mae’r arolwg wyneb-yn-wyneb o fwy na 11,000 o oedolion dros 16 oed a gafodd eu dewis ar hap yn dangos hefyd bod 86% yn credu bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi.

Roedd agweddau at wasanaethau iechyd yn gadarnhaol iawn gyda 86% yn dweud eu bod yn fodlon â gofal eu meddyg teulu, a 90% yn fodlon gyda’u hapwyntiad ysbyty diwethaf.

Roedd 88% o rieni hefyd yn fodlon gydag ysgol gynradd eu plentyn, ond ychydig yn llai, 75%, yn fodlon gyda’u hysgol uwchradd.

Canran sylweddol is – 68% – o’r holl ymatebwyr oedd yn dweud eu bod yn gallu talu eu biliau a’u hymrwymiadau heb unrhyw anhawster. Ar y llaw arall, mae’n uwch na’r hyn oedd mewn blynyddoedd a fu.

Helpu cynllunio

“Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn ein helpu i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus drwy gael gwybod lle mae pethau’n gweithio’n dda ond hefyd lle mae yna faterion sydd angen rhoi sylw iddyn nhw,” meddai Mark Drakeford.

“Cafodd yr arolwg ei gynnal yn wyneb rhaglen barhaus a niweidiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gyni cyllidol. Er gwaethaf hynny, mae’r canlyniadau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod pobl yng Nghymru yn fodlon yn gyffredinol â’r gwasanaethau sydd mor bwysig inni i gyd.

“Mae clywed barn pobl o bob cwr o’r wlad yn mynd i helpu i wneud Cymru yn lle hyd yn oed gwell i fyw, gweithio ac i’w fwynhau.”

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 a rhagor o wybodaeth amdano i’w gweld yn: www.llyw.cymru/arolwgcenedlaethol