Mi fydd rhestr o enwau lleoedd Cymru yn cael ei chyhoeddi ar-lein gan Gomisiynydd y Gymraeg heddiw (dydd Mercher, Mehefin 20), ar ôl blynyddoedd o waith ymchwil.

Nod y rhestr, sy’n cael ei disgrifio fel ‘geiriadur’, yw cynnig sillafiad safonol ar gyfer enwau pentrefi, trefi a dinasoedd yng Nghymru.

Mae bron 3,000 o enwau ar y rhestr, ac mae’n ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil gan banel arbenigol ac ymgynghori yn y maes.

Yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni hefyd, cafodd ymwelwyr â stondin Comisiynydd y Gymraeg gyfle i brofi’r rhestr ddigidol trwy osod pinnau ar fap.

Erbyn diwedd yr wythnos, cafodd dros 750 o binnau eu cofnodi, gyda’r lleoedd hynny a oedd ‘ar goll’ yn cael eu hychwanegu at y rhestr.

‘Sicrhau cysondeb’

“Mae gan lawer ohonom farn bersonol am sut i ysgrifennu enwau lleoedd yn ein milltir sgwâr ac mae’n bosibl na fydd pawb yn cytuno â phob argymhelliad ar y rhestr,” meddai Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

“Nid gorfodi yw ein bwriad, ond yn hytrach argymell, a cheisio sicrhau bod cysondeb yn y modd yr ydym yn sillafu enwau lleoedd yng Nghymru mewn cyd-destunau swyddogol.”

Mae’r rhestr ar gael i’w chwilio a’i lawrlwytho o dan drwydded agored ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.