Mae angen i gyllid sy’n helpu disgyblion o gefndiroedd difreintiedig gael ei dargedu’n well a’i asesu’n rheolaidd, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi bod yn edrych yn ddiweddar ar effaith Grant Datblygu Disgyblion (PDG), sy’n cynnig arian ychwanegol i ddisgyblion sy’n gymwys i gael cinio ysgol am ddim.

Mae’r grant gan Lywodraeth Cymru yn costio £94m y flwyddyn, ac er bod y pwyllgor yn canmol bwriad y cynllun, maen nhw’n pryderu am y modd y mae’n cael ei dargedu a’i asesu.

Daw hyn ar ôl iddyn nhw dderbyn tystiolaeth gan y corff arolygu ysgolion, Estyn, sy’n nodi mai dim ond dwy ran o dair o ysgolion Cymru sy’n defnyddio’r arian yn effeithiol.

Fe glywodd y pwyllgor hefyd nad yw’r cynllun yn cael ei ddefnyddio digon i gefnogi disgyblion, a hynny er mwyn gwella eu cyraeddiadau.

Argymhellion

Er mwyn gwella effeithlonrwydd y cynllun, mae’r Pwyllgor yn nodi ambell argymhelliad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru fonitro’n barhaus effaith y grant ar y disgyblion y mae wedi’i dargedu atynt;
  • targedu disgyblion sydd wedi derbyn arian o’r grant yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’;
  • Disgyblion mewn gofal neu wedi’u mabwysiadu i dderbyn arian o’r grant;

“Angen gwneud llawer mwy”

“Mae’r cyswllt rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad wedi’i hen sefydlu,” meddai Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Mae torri’r ddolen hon wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer.

“Mae’r Pwyllgor yn cefnogi’r defnydd o’r Grant Datblygu Disgyblion i helpu i leihau’r bwlch rhwng disgyblion o dan anfantais a difreintiedig a’u cyfoedion, ond rydym o’r farn bod angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod y cyllid hwn yn helpu disgyblion mwy abl o gefndiroedd difreintiedig i gael y graddau uchaf.”