Mae chwech o blismyn wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau o ddewrder yn seremoni wobrwyo Ffederasiwn yr Heddlu a fydd yn cael ei chynnal fis nesa’.

Mae swyddogion o bob un o’r lluoedd yng Nghymru, heblaw am Heddlu Dyfed-Powys, wedi derbyn enwebiadau am eu dewrder yn eu gwaith.

Yn eu plith mae PC David Hall a PC Rhys Rushby o Heddlu Gogledd Cymru, a lwyddodd i wrthsefyll ymosodiad gan ddyn a oedd yn cael ei amau o fod yn llofrudd.

Mi gafodd David Hall ei daro yn ei ysgwydd, ei ddwylo a’i freichiau gan y dyn a oedd â mwrthwl.

Aeth y dyn yn ei flaen wedyn i fygwth Rhys Rushby gyda chyllell am ei wddf, ond fe lwyddodd y ddau blismon i’w arestio yn y diwedd.

Fe fu’n rhaid i PC Christiane Fortt a Sargant Jonathan Pursey o Heddlu Gwent fynd i’r afael â dau ddyn, y naill gyda bwyell a’r llall gyda chyllell.

Y ddau i gael eu henwebu o Heddlu De Cymru yw PC Megan Hill a PC Mathew Jones, a gafodd eu galw i gartref dyn a oedd yn bygwth lladd ei hun ac wedi ei arfogi â machete a chyllell.

Enwebiadau eraill

 Ymhlith y plismyn yn Lloegr wedyn, mae’r rheiny a gafodd eu galw yn ystod yr ymosodiadau brawychol yn San Steffan a Phont Llundain y llynedd, wedi’u henwebu.

Mae PC Keith Palmer, a gafodd ei ladd ar ôl i derfysgwr ei drywanu y tu allan i’r Senedd ar Fawrth 22, hefyd ar y rhestr.

“Mae gwobrau eleni yn hynod drist, wrth inni gofio am y ddau ymosodiad brawychol y mae ein gwlad wedi’u dioddef yn ystod y flwyddyn ddiwetha’,” meddai Cadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu, Calum Macleod.

“Mi wnaeth cannoedd o swyddogion o luoedd Metropolitan a Dinas Llundain redeg i wyneb y perygl roedd y rhain yn cynrychioli, gyda nifer ohonyn nhw wedi cael eu cynnwys yn yr enwebiadau.

“Ac mae PC Keith Palmer – sydd, wrth gwrs, wedi’i enwbu – wedi gorfod talu’r pris eitha’ wrth amddiffyn eraill.”

Mi fydd y rheiny sydd wedi’u henwebu yn cael eu gwahodd i Rif 10 i gwrdd â Phrif Weinidog Prydain, cyn y bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Llundain ar Orffennaf 12.