Bu farw’r dramodydd a’r actor o’r Rhondda, Frank Vickery, yn 67 oed.

Fe gafodd ei eni yn mhentre’ Blaencwm ger Treorci yn 1951, a bu’n byw a gweithio yn y Rhondda hyd at y diwedd.

Fe ddechreuodd sgrifennu dramâu tra oedd yn yr ysgol, a daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf pan oedd yn 21 oed gyda’r ddrama un act, After I’m gone, a enillodd iddo Darian Howard De Waldon.

Cafodd glod am ei ddrama nesa’ hefyd, sef See You Tommorow, a roddodd iddo’r wobr am y dramodydd gorau gan Gymdeithas Ddrama Cymru.

Bu’n gyfrannwr cyson i fyd y theatr, radio a theledu ar hyd y blynyddoedd, gan ddod yn un o brif ddramodwyr Saesneg Cymru yn ystod y 1990au.

Ymhlith ei ddramâu enwoca’ mae Family Planning All’s Fair a Errogenous Zones.

Bu hefyd yn actio yn y blynyddoedd diwetha’, gan berfformio yn rhai o ddramâu William Shakespeare a’r pantomeim blynyddol yn Theatr y Grand, Abertawe.