Mae iaith yn cynnig “ymdeimlad o hunaniaeth” a “phont” i ddiwylliant estron, yn ôl actor a chyfarwyddwr o Dwrci sydd bellach yn dysgu Cymraeg.

Symudodd Memet Ali Alabora i Gymru yn 2013, gan ymgartrefu yng Nghaerdydd a sefydlu cwmni cynhyrchu Be Aware Productions â’i wraig Pinar Ogun.

 hunaniaeth yn thema amlwg yn eu gwaith, mae’r pâr yn hoff o ymdrin â’r cyswllt rhwng iaith a diwylliant, ac wedi treulio’r flwyddyn ddiwetha’ yn dysgu Cymraeg.

“Mi ddarllenais lawer am hanes [Cymru],” meddai wrth golwg360. “Ac mi wnaeth Pinar a finnau geisio trochi ein hunain yn y diwylliant.

“Roeddwn yn teimlo, os na fydden yn dysgu unrhyw Gymraeg ni fyddem yn medru mwynhau’r diwylliant oll – bod rhywbeth ar goll. Mae’n rhan o fodolaeth y tir a’r diwylliant.”

Mae’r pâr wedi ymddangos ar ddrama deledu Cymraeg, Un Bore Mercher, ac wrthi’n paratoi ar gyfer cynhyrchiad newydd, Y Brain, a fydd yn cael ei berfformio yn Gymraeg a Thwrceg.

Pam symud o Dwrci?

Roedd Memet Ali Alabora yn ffigwr blaenllaw ym myd perfformio Twrci.

Ef sefydlodd safle perfformio cyfoes cyntaf y wlad, ac fe roedd yn actor teledu, theatr a sinema adnabyddus – “Wnes i’r cyfan,” meddai.

Ond, daeth newid mawr i’w fywyd yn 2013.

Yn ystod y flwyddyn honno, roedd Memet Ali Alabora wedi cyfarwyddo a pherfformio sioe – ynghyd â’i wraig – ynglŷn â gwlad ddychmygol dan reolaeth unben.

Yn ogystal, 2013 oedd blwyddyn Protest Parc Gezi, sef protest yn erbyn dymchwel parc yn Istanbul – ond oedd â neges wleidyddol wrth y bôn.

Roedd Memet Ali Alabora yn rhan o’r protestiadau, ac fe drydarodd ei gefnogaeth ar wefan Twitter gan ennyn miloedd o ail-drydariadau.

Yn y pendraw, fe ledodd y brotest dros Dwrci oll, a chafodd y diwydiant creadigol ei feio’n rhannol am hynny. Trodd bywyd y cyfarwyddwr yn “hunlle”, a bu’n rhaid iddo ffoi.”

Pam Cymru?

“Yr opsiwn cyntaf, yn syth, oedd Cymru,” meddai Memet Ali Alabora, gan esbonio bod un o’i gydweithwyr a wnaeth ffoi ag ef, wedi ymweld â’r wlad yn y gorffennol.

Meltem Arikan, yw ysgrifennydd dramâu Be Aware Productions, a bu iddi ymweld â Chymru yn 2004, er mwyn cymryd rhan mewn cwrs Saesneg.

“Doedd hi erioed wedi teimlo cymaint o gysylltiad â lle o’r blaen,” meddai Memet Ali Alabora. “Gwnaeth hi gwympo mewn cariad â Chymru yn syth. Ac fe ddechreuodd hi grio. A bu’n llefain y glaw am dair wythnos yn olynol.”

Fe ddychwelodd hi i Gymru, gan dreulio bron i ddegawd yn erfyn ar ei chyfeillion i symud i Gymru. A dyna’n union y digwyddodd yn 2013.