Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ehangu un o’u cynlluniau gofal plant i saith awdurdod lleol newydd.

Dan y cynllun, mae’r Llywodraeth yn darparu gwerth 30 awr yr wythnos o ofal plant, i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio.

Ac ar hyn o bryd, mae’r cynnig ar gael yn Ynys Môn, Gwynedd, Caerffili, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Blaenau Gwent.

Ond, o fis Medi, mi fydd y cynllun yn cael ei gyflwyno yng Nghaerdydd, Casnewydd, Torfaen, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Wrecsam.

Mae disgwyl bydd y cynllun yn weithredol mewn, o leiaf rhai rhannau, o’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru erbyn mis Medi 2019.

“Ledled Cymru”

“Mae ein cynnig gofal plant arloesol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rieni ledled Cymru, gan leihau’r straen ar incwm teuluoedd a helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn eu rhwystro rhag derbyn swydd neu gynyddu eu horiau,” meddai, Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol.

“Mae’n bleser mawr gennyf gadarnhau bod y cynnig yn cael ei ehangu i saith o awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, wrth inni barhau i weithio i gyflwyno’r cynnig yn raddol drwy Gymru gyfan erbyn mis Medi 2020.”