Mi fydd y gwaith ar gyfer adeiladu ffordd gyswllt Gorllewin Sir Gar yn ailgychwyn yr wythnos hon, yn ôl Cyngor Sir Gâr.

Daw hyn ar ôl i’r awdurdod lleol ddod i gytundeb ynghylch prynu’r darn terfynol o dir ar gyfer y cynllun gwerth £5m.

Mi wnaeth Gorchymyn Prynu Gorfodol, a gafodd ei roi i’r Cyngor trwy law Llywodraeth Cymru, sicrhau hefyd fod ganddyn nhw reolaeth dros yr holl dir sydd ei angen.

Maen nhw felly wedi cyfarwyddo cwmni contractio i fwrw ymlaen â’r gwaith, gyda’r gobaith y bydd wedi’i gwblhau erbyn y diwedd y flwyddyn.

Cyfres o ddatblygiadau

Bydd y ffordd newydd yn cysylltu’r A40 ger Travellers Rest â Ffordd y Coleg, gan ddarparu mynediad i safleoedd fel Parc Dewi Sant, campws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phencadlys newydd S4C, yr Egin.

Mae’r ffordd gyswllt yn rhan o brosiect ehangach Cyngor Sir Gâr ar gyfer ardal orllewinol tre’ Caerfyrddin.

Ymhlith y datblygiadau eraill sydd ar y gweill mae adeiladu 1,100 o dai newydd, ysgol gynradd, man cyflogaeth, ynghyd â chanolfan siopa fechan.

“Manteision economaidd sylweddol”

“Mae’r datblygiad hwn yn cynnig manteision economaidd sylweddol i’r sir, nid yn unig o ran y gwaith a’r cyfleoedd hyfforddiant y mae’n eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu, ond o ran agor cysylltiadau newydd ar gyfer busnes yn y tymor hir,” meddai Arweinydd y Cyngor, Emlyn Dole.