Mae achosion o bydredd dannedd ymysg plant 11 a 12 oed wedi gostwng 15% mewn cyfnod o dros 10 mlynedd, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi gan Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’n dangos bod nifer yr achosion o bydredd dannedd ymysg plant wedi gostwng o 45% yn 2004/05 i 30% yn 2016/17.

“Effaith go iawn”

Wrth groesawu’r adroddiad, fe ganmolodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, yr ymgyrch Cynllun Gwên, a gafodd ei lansio gan Lywodraeth Cymru yn 2008.

Nod yr ymgyrch hwn yw gwella iechyd y geg ymysg plant a phobol ifanc, ac mae’n amlwg, meddai Vaughan Gething, ei fod wedi cael “effaith go iawn” yng Nghymru.

“Dw i’n falch iawn o weld y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran lleihau pydredd dannedd ymysg plant,” meddai.

“Mae’n amlwg bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn yr ymgyrch Cynllun Gwên a mynediad at wasanaethau deintyddol ataliol yn cael effaith go iawn ledled Cymru.

“Fodd bynnag, ni allwn fodloni ar hynny. Rydym ni wedi ailwampio ein rhaglen atal i gynnwys mwy o help i blant ifanc iawn a’u rhieni, ac rydym ni hefyd yn dwysau camau atal ar gyfer oedolion hŷn.