Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n dal i “aros am fanylion” ynglŷn â’r £1.2bn ychwanegol a fydd yn dod tuag at y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May, y byddai £20bn yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd ledled y Deyrnas Unedig erbyn 2023.

Mae wedi cydnabod y bydd yn rhaid codi trethi er mwyn ariannu’r cynllun, gan ddweud y bydd yr arian yn dod yn rhannol yn sgil gadael Brexit.

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.2bn yn ychwanegol dros yr un cyfnod o dan fformiwla Barnett.

Mi ddaeth y cadarnhad am hyn trwy law Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ac anogodd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr arian yn cael ei wario “yn strategol” er mwyn gwella’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

‘Dim manylion’

Ond mewn ymateb i’r cyhoeddiad, mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething, yn dweud nad ydyn nhw wedi cael dim manylion gan Lywodraeth Prydain eto ynglŷn â’r arian ychwanegol.

“Rydyn ni’n croesawu penderfyniad hwyr Llywodraeth Prydain i dynnu’r polisïau o lymder oddi ar ein Gwasanaeth Iechyd, sef yr hyn rydym ni wedi bod yn galw amdano ers tro,” meddai.

“Ond wrth i ni groesawu unrhyw arian ychwanegol, rydyn ni’n dal i aros am fanylion.”