Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw’r dyn a fu farw mewn damwain car ar drac rasio preifat yng Ngheredigion ddechrau’r mis.

Fe gafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys yr ambiwlans awyr, eu galw i Ganolfan Weithgareddau Canolbarth Cymru ym Mhontrhydfendigaid ar Fehefin 3.

Bu farw Josh Pillinger o Fryste, 24 oed, yn y fan y lle, ac mi gafodd dynes ifanc a oedd yn teithio yn y cerbyd gydag ef ei chludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau.

“Dylanwad positif”

Mewn teyrnged, mae ei deulu wedi dweud ei fod yn ddyn ifanc a gafodd “ddylanwad positif” ar bawb yr oedd yn ei adnabod.

“Rydyn ni’n ei golli’n fawr, a’r modd yr oedd yn medru gwneud i ni chwerthin cymaint yn ddyddiol,” meddai’r datganiad.

Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau.