Mae teulu’r diweddar Carl Sargeant wedi datgan eu bod yn ystyried her gyfreithiol i’r ymchwiliad i’w ddiswyddiad trwy’r Uchel Lys.

Bu farw’r Aelod Cynulliad 49 oed rai dyddiau ar ôl cael ei ddiswyddo o’r cabinet gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ym mis Tachwedd y llynedd.

Roedd yn wynebu honiadau o gamymddwyn rhywiol.

Bellach mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad i’r diswyddiad wedi cael ei amlinellu, ac mae galwad wedi bod am gyflwyniad tystiolaeth. Paul Bowen yw cadeirydd yr ymchwiliad.

Ond, ar ddydd Llun (Mehefin 18), mae teulu’r AC wedi lleisio’u hanfodlonrwydd, gan fynnu nad yw rheolau’r ymchwiliad yn eu “bodloni o gwbl” am nad ydyn nhw’n cael bod yn rhan  o’r ymchwiliad.

“Colli amynedd”

“Mae teulu Carl Sargeant yn colli amynedd a ffydd yn yr ymchwiliad, ac yn anhapus bod pob un o’u ceisiadau wedi’u hanwybyddu,” meddai Neil Hudgell, sy’n cynrychioli’r teulu.

“Er bod y teulu yn derbyn addewid Mr Bowen y bydd yn cynnal ymchwiliad teg ac annibynnol, dydyn nhw ddim yn credu bod protocol yn caniatáu hynny.

“Mae’r Ysgrifennydd Parhaol … wedi gwrthod a gadael i’r teulu gael cynrychiolaeth gyfreithiol eu hunain yn yr ymchwiliad, gan olygu na fydd modd iddyn nhw gael bargyfreithiwr i groesholi tystion.”

“Dw i wedi ysgrifennu at Paul Bowen a’r Ysgrifennydd Parhaol i ddweud wrthyn nhw ein bod yn credu bod y penderfyniadau a wnaethpwyd yn gysylltiedig â’r protocol yn afresymol.

“A byddwn yn ei herio trwy adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys os bydd rhaid.”

Ymateb y Llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai her gyfreithiol yn “annoeth” ond y byddan nhw’n ystyried y dadleuon cyfreithiol yn “ofalus.”

“Mae’r protocol yn amlinellu’r sylfaen a bydd yr ymchwiliad wedi’i seilio ar hyn. Mae hyn yn galluogi’r teulu, neu unrhyw gyfranogwr i gyflwyno cwestiynau gall yr ymchwilydd ofyn iddyn nhw.

“Doedd dim pryderon am yr amseriad wedi’u codi yn y gorffennol … Byddwn yn ystyried y dadleuon cyfreithiol manwl yn ofalus, ond rydym yn ystyried yr achos arfaethedig yn annoeth.”

“Annerbyniol”

“Mae ymddygiad ffigurau blaenllaw Llywodraeth Cymru trwy gydol y bennod drasig yma wedi bod yn hurt,” meddai Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.

“Mae’r Ysgrifennydd Parhaol wedi gwrthod gadael i’r teulu gael cynrychiolaeth gyfreithiol eu hunain yn yr ymchwiliad, ac mae hynny’n annerbyniol. Mae hefyd yn codi cwestiynau, unwaith eto, am ei rôl yn y broses yma.”