Mi fydd cyfyngiadau cyflymder o 50 milltir yr awr yn cael eu cyflwyno mewn pum lleoliad ar ffyrdd Cymru o heddiw (dydd Llun, Mehefin 18) ymlaen.

Y bwriad yw gwella ansawdd yr aer trwy leihau’r lefelau anghyfreithlon o nitrogen deuocsid.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ansawdd aer gwael yn cyfrannu at tua 2,000 o farwolaethau’r flwyddyn, ac mae’n effeithio ar y rheiny sydd mwyaf bregus.

Mi fydd y cyfyngiadau cyflymder dros dro yn dod i rym yn y lleoliadau canlynol:

  • yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy;
  • yr A483 yn Wrecsam;
  • yr M4 rhwng Cyffordd 41 a 2 (Port Talbot);
  • yr M4 rhwng Cyffordd 25 a 26 (Casnewydd);
  • yr A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd.

Mesurau eraill

 Ymhlith y mesurau eraill fydd yn cael eu cyflwyno yw gosod rhagor o arwyddion er mwyn esmwytho llif y traffig.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y mesurau yn gwella ansawdd aer ar unwaith, a gallai’r allyriadau fod 18% yn is yn y pum lleoliad.

Mae tystiolaeth yn dangos bod lefelau nitrogen deuocsid ar eu hisaf pan fydd cerbydau ysgafn yn teithio ar gyflymder o rhwng 40 a 50 milltir yr awr.

Mae disgwyl i’r cyfyngiadau cyflymder esmwytho llif y traffig hefyd, wrth i gerbydau deithio ar gyflymder mwy cyson.

Gweithredu’n gyflym

“Rwy wedi ymrwymo i geisio lleihau llygredd aer yng Nghymru er mwyn creu dyfodol mwy iach i’n cymunedau a gwarchod ein hamgylchedd naturiol,” meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.

“Mae lefelau presennol y nitrogen deuocsid yn mynd y tu hwnt i’r terfyn cyfreithlon yn y pum lleoliad, felly mae angen i ni gymryd camau cyn gynted â phosib.”