Os oes gornest am arweinyddiaeth Plaid Cymru, mi ddylai gael ei chynnal cyn gynted ag sy’n bosib, yn ôl Aelod Cynulliad o’r blaid.

Yn ogystal, fe fyddai Simon Thomas eisiau gweld pob aelod o’r blaid yn cael cyfle i bleidleisio am arweinydd newydd, nid aelodau etholedig yn unig.

“Bydden ni’n meddwl bod e’n llesol pe bai rhywun yn sefyll, bod y blaid yn penderfynu’r materion hyn yn y ffordd orau,” meddai ar Y Post Cyntaf ar Radio Cymru bore ma. “Sef bod yr aelodau yn penderfynu, yn hytrach na nifer o Aelodau Cynulliad.

“Felly mae’n briodol os ry’n ni’n mynd i gael cystadleuaeth, [ein bod yn cael] e nawr. Yn sicr bydden i ddim yn cefnogi rhywun yn cystadlu am arweinyddiaeth yn nes at etholiad. Felly dyma’r cyfnod os yw rhywun am gynnig eu henw.”

Gornest?

Daw ei sylwadau wedi i arweinydd y blaid, Leanne Wood, ddatgan y byddai’n camu o’r neilltu, oni bai y byddai’n Brif Weinidog ar ôl yr etholiad nesa’.

Bellach, mae tri Aelod Cynulliad Plaid Cymru – Elin Jones, Siân Gwenllian a Llŷr Gruffydd – wedi galw ar eu cyd-aelodau i herio’r arweinyddiaeth.

Ac mae cynrychiolwyr y blaid yn Sir Gaerfyrddin wedi erfyn ar Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, i sefyll am y rôl.

“Dw i’n cefnogi Leanne Wood ar hyn o bryd,” meddai Simon Thomas bore ‘ma. “A fydden ni’n dymuno cefnogi unrhyw arweinydd sy’n cael ei ethol gan aelodaeth y blaid.”