Bydd y diwydiant bwyd yng Nghymru yn derbyn buddsoddiad o dros £3 miliwn i’w helpu i baratoi ar gyfer Brexit.

Daw’r arian o gronfa £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ac mi fydd £2.15 miliwn o’r buddsoddiad yn cael ei gyfrannu at y sector cig coch.

Bydd peth cyllid yn cael ei roi i brosiect a fydd yn edrych ar ffyrdd o leihau’r ddibyniaeth ar fewnforion.

Yn ogystal, dros y ddwy flynedd nesa mi fydd diwydiant pysgota Cymru, a’r diwydiant dyframaeth, yn cael cymorth i ddod o hyd i farchnadoedd newydd wedi Brexit.

“Heriau a chyfleoedd”

“Bydd Brexit yn creu nifer o heriau a chyfleoedd i’n diwydiant amaethyddiaeth a’n diwydiant pysgodfeydd,” meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones, wrth gyhoeddi’r cyllid.

“Bydd y cyllid dwi’n ei gyhoeddi heddiw o’n Cronfa Bontio’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi cymorth y mae mawr ei angen.

“Fel Llywodraeth, byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu’r diwydiannau pwysig hyn baratoi ar gyfer byd ar ôl-Brexit.”

Croesawu

Mae Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru (NFU Cymru) wedi croesawu’r buddsoddiad i’r sector cig coch yng Nghymru, ac wedi ymrwymo i gydweithio â’r Llywodraeth tros y mater.

“Mae ‘na gymaint o ansicrwydd tros ddyfodol ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd, ac mae ein sector cig coch yn ddibynnol ar eu marchnadoedd,” meddai llefarydd ar ran yr undeb.

“Felly rydym yn bles bod y Prif Weinidog wedi cydnabod  hyn ac wedi ymrwymo i ddarparu arian trwy Gronfa Bontio’r Undeb Ewropeaidd i’r sector yma sydd yn hynod o bwysig i Gymru.”