Fe fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.2 biliwn yn ychwanegol tua at y Gwasanaeth Iechyd (GIG) gan Lywodraeth Prydain.

Mae’n dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog Theresa May y byddai £20bn yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd ar draws y Deyrnas Unedig erbyn 2023/24 i nodi 70 mlynedd ers sefydlu’r NHS.

O ganlyniad fe fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.2bn yn ychwanegol dros yr un cyfnod o dan fformiwla Barnett.

Mae Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi annog Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething, i sicrhau bod yr arian yn cael ei gyfeirio at wella’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i wario’r arian ychwanegol yma yn strategol i sicrhau gwelliannau iechyd yng Nghymru,” meddai gan ychwanegu y gallai’r arian gael ei ddefnyddio i fynd i’r afael a phryderon am berfformiad ac y gallai’r buddsoddiad wneud “gwahaniaeth go iawn” i bobol sy’n byw yng Nghymru.