Mae dau o bobol – dyn 43 oed a dynes 36 oed – wedi cael eu harestio yn dilyn tân yng Nghasnewydd.

Cafodd Eglwys Gymunedol Bethel a hen glwb Zanzibar eu dinistrio yn ardal Stow Hill y ddinas toc wedi 6 o’r gloch nos Wener.

Roedd fflamau’n llosgi drwy’r eglwys a’r awyr yn dew â mwg tywyll.

Cafodd 40 o drigolion lleol eu hanfon o’u tai rhag ofn, a phawb arall yn cael eu cynghori i gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau.

Fe fu dros 70 o ddiffoddwyr tân wrthi am tua theirawr yn dod â’r tân o dan reolaeth.

Apêl

Mae dau o bobol wedi’u harestio ar amheuaeth o gynnau’r tân yn fwriadol, ac mae’r gwasanaeth tân a’r Cyngor Sir yn cynnal ymchwiliad.

Mae Heddlu Gwent wedi apelio am dystion i adnabod y bobol oedd yn y clwb ar y pryd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.