Mewn sied llawn defaid yng ngogledd Ceredigion, mae yna ddathlu’r penwythnos hwn wrth i Gymdeithas Defaid Penfrith Bryniau Cymru ddathlu hanner can mlynedd o fodolaeth.

Gwaddol yw’r gymdeithas o weledigaeth ei chadeirydd cyntaf, sef yr Arglwydd Geraint Howells, yr Aelod Seneddol a’r ffermwr o Bonterwyd a gadwai ei ddiadell ei hun ar fryniau Pumlumon yn ei ddydd.

Bellach, mae’r gymdeithas honno’n dathlu hanner can mlynedd ers y cyfarfod cyntaf ym mis Mai 1968, gyda’r bwriad o ddiogelu’r brîd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae’r ddiadell yn gynhenid i ardal canolbarth Cymru,” meddai Milwyn Davies o ardal Trisant ger Pontarfynach, a Chadeirydd y gymdeithas am eleni.

Esbonia y byddai rhai miloedd o’r defaid hynny, â’u pennau penfrith a’u cyrff cydnerth, yn cael eu gwerthu dro yn ôl yn arwerthiannau’r hydref ym marchnad ddefaid Pontarfynach.

‘Addasu i’w chynefin’

“Braf yw gallu dathlu’r hanner can mlynedd yn agos at ardal sefydlu’r gymdeithas,” ychwanega Milwyn Davies gan ddiolch i Tom a Bethan Evans am gynnal y diwrnod agored ar eu fferm ym Mhendre ger Llanfihangel-y-Creuddyn, yng ngogledd Ceredigion.

“Mae’n ddafad fynydd sydd wedi addasu’n gelfydd i’w chynefin,” meddai gan ddweud fod ei chaledi’n eu galluogi i “ymdopi â gaeafau caled fel yr un rydyn ni wedi’i gael eleni.”

“Mae’n dawel ei natur ac yn gwneud mamau arbennig o dda”, meddai.

Ac er bod y ddiadell wedi colli rhywfaint o’i thir yn ddiweddar, mae’r Cadeirydd presennol yn hyderus y bydd yn parhau’n “ddewis naturiol” i ffermydd mynydd a llawr gwlad, fel ei gilydd, gyda llawer o’r defaid i’w gweld “y tu hwnt i’w ffiniau gwreididol.”