Cafodd siarc anferthol ei ddal gan bysgotwyr ar yr arfordir gerllaw Aberdaugleddau yr wythnos yma.

Roedd y siarc morgi yn wyth troedfedd o hyd ac yn pwyso 23 stôn, ac mae’n debygol mai dyma’r siarc mwyaf erioed i gael ei ddal yn nyfroedd Cymru.

Mae’r morgi o’r un teulu â’r Siarc Mawr Gwyn – y rhywogaeth sy’n peri arswyd oherwydd eu hymosodiadau ar bobl.

Er nad yw’r morgi yn cael ei ystyried yn arbennig o berygl, mae hanesion ohono yn ymosod ar ddefiwyr gerllaw llwyfannau olew.

Cafodd y siarc ei ddal ar rîl gan Matthew Burrett ar daith pysgota mewn cwch gyda chwmni Phat Cat Charters o Gaerdydd.

Cafodd y siarc ei ryddhau yn unol â pholisi’r cwmni sy’n defnyddio bachau arbennig ac offer i’w tynnu’n ddianaf.