Roedd Carl Sargeant wedi bod yn dioddef o iselder am ddwy flynedd cyn iddo gael ei ddarganfod wedi’i grogi yn ei gartref yng Nghei Connah ym mis Tachwedd.

Daeth hyn i’r amlwg ddoe mewn gwrandawiad cychwynnol yn Rhuthun cyn y cwest i’w farwolaeth.

Dywedodd Crwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, John Gittins, y bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones ymysg y tystion a fydd yn cael ei alw i roi tystiolaeth yn y cwest, ac y bydd yn ei holi am faint oedd yn ei wybod am iechyd meddwl Carl Sargeant.

Roedd Aelod Cynulliad Alyn a Glannau Dyfrdwy wedi cael ei ddiswyddo o gabinet Carwyn Jones bedwar diwrnod cyn ei farwolaeth.

Clywodd y gwrandawiad fod adroddiad post-mortem wedi dangos bod lefelau o gyffuriau gwrth-iselder yn ei waed.

Cwestiynau sylfaenol

Dywedodd Leslie Thomas, y QC sy’n cynrychioli teulu Carl Sargeant, mai un o’r cwestiynau sylfaenol i’r cwest fyddai a oedd y rheini a benderfynodd ei ddiswyddo o’r cabinet yn gwybod am y posibilrwydd y gallai fod yn fregus. Dywedodd hefyd fod pethau eraill yn achosi straen ym mywyd Carl Sargeant, a chyfeiriodd at “fater sensitif iawn” na fanylodd ddim yn ei gylch.

Mewn datganiad, dywedodd Carwyn Jones nad oedd yn gwybod am unrhyw salwch meddwl na bregusrwydd ar y pryd, ond y gallai fod wedi cael “problem gydag alcohol”. Dywedodd Leslie Thomas y bydd datganiad y Prif Weinidog yn cael ei archwilio’n drylwyr yn y cwest.

Er bod honiadau o ymddygiad amhriodol wedi cael ei wneud gan amryw o ferched yn erbyn Carl Sargeant, dywedodd y Crwner na fydd ymchwiliadau pellach i’r rhain gan nad ydyn nhw’n berthnasol i’r cwest.

Nid oes dyddiad wedi ei bennu eto ar gyfer y cwest.