Mae llythyr gan dri Aelod Cynulliad Plaid Cymru, sy’n galw am gystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid, wedi cael ei gyhoeddi.

Daw hyn ychydig ddiwrnodau ar ôl i arweinydd presennol Plaid Cymru, Leanne Wood, gyhoeddi na fydd hi’n camu o’r neilltu nes etholiadau’r Cynulliad yn 2021.

Yn ôl y llythyr at gyd-aelodau o grŵp Plaid Cymru, sydd wedi’i arwyddo gan Siân Gwenllïan, Elin Jones a Llŷr Huws Gruffydd, maen nhw o’r “farn bendant” bod angen “trafodaeth adeiladol” ar bolisi a chyfeiriad Plaid Cymru.

Mae hyn, medden nhw, er mwyn “paratoi ar gyfer yr heriau etholiadol o’n blaen”.

Maen nhw’n ychwanegu bod “safbwynt Leanne yn glir ac anrhydeddus ar y mater yma”, a’i bod nhw felly yn galw ar aelodau eraill i roi eu henwau ymlaen am yr arweinyddiaeth.

“Mae pob plaid angen adfywiad o bryd i’w gilydd,” meddai’r tri. “Gobeithio y gwnewch oll ystyried y cyfle sydd ar agor nawr i sefyll am yr Arweinyddiaeth – cyfle na fydd yn codi eto tan haf 2020, gydag unrhyw Arweinydd newydd mewn lle ond cwta 6 mis cyn etholiad Cymru 2021.”

Heriau posib?

Ers cyfweliad Leanne Wood gyda’r BBC ganol yr wythnos, mae yna adroddiadau bod dau aelod o grŵp Plaid Cymru ym Mae Caerdydd, sef Adam Price a Rhun ap Iorwerth, o dan bwysau i roi ei henwau ymlaen i herio Leanne Wood.

Er nad yw’r ddau wedi ymateb i’r adroddiadau hyn eto, mae un o gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gaerfyrddin eisoes wedi dweud wrth golwg360 bod “tri chwarter” ohonyn nhw wedi datgan eu cefnogaeth i Adam Price.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau am yr arweinyddiaeth yw Gorffennaf 4.