Fe fydd ysgol uwchradd ym Mhowys yn parhau ynghau heddiw (dydd Gwener, 15 Mehefin) yn dilyn digwyddiad yno  ddydd Iau.

Cafodd  Heddlu Dyfed Powys eu galw i Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt toc wedi 11yb fore dydd Iau, 14 Mehefin, yn dilyn adroddiadau fod mwg a sylwedd wedi’i ddarganfod a oedd yn achosi trafferthion anadlu ac anhwylder i staff a disgyblion.

Bu’n rhaid i 500 o ddisgyblion adael yr ysgol ac fe gafodd tua 20 o bobol eu heffeithio. Ar ôl derbyn triniaeth feddygol gan griwiau ambiwlans, mi gawson nhw eu hanfon adref.

Mae llanc 16 oed wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Fe fydd trefniadau arbennig i ddisgyblion sy’n sefyll arholiadau yn yr ysgol heddiw.

Mae’r ysgol yn gobeithio ail-agor ddydd Llun, 18 Mehefin.